Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

       

Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015 a dydd Mercher 14 Ionawr 2015

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2015 a dydd Mercher 21 Ionawr 2015

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2015 a dydd Mercher 28 Ionawr 2015

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) (5 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - gwelliant i Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 2) (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - taliadau ymadael y sector cyhoeddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 3) (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Dadreoleiddio: diwygiad mewn perthynas â Deddf Cychod Pysgota Prydeinig 1983, Deddf Pysgodfeydd 1868 a Deddf Pysgodfeydd 1891 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 5) (15 munud)

·         Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2015-16 (60 munud)

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14 (60 munud)

 

Dydd Mercher 14 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM5630

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:       

 

a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;

 

b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;

 

c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ein Gorffennol a'i Ddyfodol (30 munud)

·         Gorchymyn Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015 (30 munud)

·         Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015 (15 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Uwch (Cymru) (150 munud)

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig.  Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

 

Dydd Mercher 21 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

NDM5639 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu cyflawni cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylder yn y sbectrwm awtistig.

 

2. Yn nodi bod angen gwneud mwy i ddiwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth yng Nghymru.

 

3. Yn credu y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ei ddisgwyl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru.

 

Mae cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar gael yn:

http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=cy

 

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gwella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Adnewyddu'r Agenda Cynhwysiant Ariannol (30 munud)

·         Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2013-14 (60 munud)

·         Dadl: Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2014 (60 munud)  

Dydd Mercher 28 Ionawr 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)